Arsyllwyr Cymru
Gwefan bach ddigon difyr am hanes seryddiaeth yng Nghymru. Mae na fersiwn html o bennod 24 "Seryddiaeth a Seryddwyr", llyfr Cymraeg o 1923 gan y Parch J Silas Evans. Mae'n fwy diddorol am y lluniau gret o'r seryddwyr yma o'n cyndeidia ni na'r gweddill rili am mai crynodeb ohonynt sydd yno.

Pam bo nhw'n gwisgo'r hetia skullcaps na efo tasl bach ar y top! A pam fod eu hanner nhw'n weinidogion y ffydd? Nhw oedd academyddion y dydd siwr gen i.

O'n i'n hoff o'r disgrifiad yma, hehe:

MR. J. E. JONES, Tybrith, Llanrhaiadr-yn-Mochnant. - Farmer-Astronomer, yn "arsyllwr" craff, ac yn cymryd diddordeb mawr mewn Seryddiaeth.

O Cymru Ar Y We

Comments

Popular posts from this blog