Ffilm: DVD

Addiction, The (1995)
Cyf: Abel Ferrara

Roedd hon yn siom fawr, ar ol mwynhau Kings Of New York ag eitha mwynhau The Funeral roedd gen i ddisgwyliadau am ffilm ddiddorol am Vampires yn Efrog Newydd...ffilm or-ffycin pretentious a knowing i fi. Galwch fi'n thic ond, pan ma'r blydi pobol yn gollwng dyfyniadau Nietszche; Kirkegaard a Heidegger ar hyd y lle bob man mae o chydig yn ormod i'w amsugno. Do'n i ddim yn deall o gwbwl a doedd dim arall ynddo i gadw'n niddordeb i wedi hynny. Doedd Walken mond ynddo fo am 2 funud - ac roedd ei actio yn y darn hwnnw lot dros y top - gneud parodi o'i hun heb drio. Mae'n edrych yn gret yn y du a gwyn sy'n mudlosgi ond o'n i'n teimlo fel bod athronydd wedi sugno'r bywyd i gyd allan ohona i ag erbyn y diwedd o'n i jest isio gwylio Goonies. Ella i rywun mwy deallus, fod hon yn hyfryd - ymdrabaeddwch yn eich gwybodusiaeth (a'ch holl-wybodusiaeth), ond i fi doedd hi'n ddim ond tyrdun gwaedlyd ar ochor stryd Efrog Newydd.

Comments

Popular posts from this blog