Ffilm: Sinema

Mean Streets (1973)
Cyf: Martin Scorsese


Gesh i'r cyfle i weld hwnb yn sinema'r UGC neithiwr ac am dalpyn calad o drais a thestosteron Eidalaidd oedd o. Ffycin hel oedd y trais a'r dicter yn ffrwtian mor agos i'r arwyneb, mod i ar ochor fy set drwy gydol y ffilm. Mae De Niro yn hynod bwerus a Keitel yn ei ddangos bron cymaint ar adegau hefyd. Mae'r cymeriadau eto fel ffilmiau gnagster eraill Scorcese yn cychwyn yn neis iawn, pawb yn ffrindiau a bod yn glen i'w gilydd, sugno'r gwyliwr mewn a wedyn PAW! Da chi'n teimlo'r holl beth yn colli rheolaeth, a da chi'n teimlo fel bo chi'n colli rheolaeth hefyd.

Roedd y ffilm yn arloeswr Goodfellas ond efo graen strydoedd Efrog Newydd a ddangoswyd yn Taxi Driver nid ymhell wedi ffilmio hon. Roedd na lawer o ddifrod ar y print neithiwr ond wnaeth hynny mond gneud naws y ffilm yn well. O'n i wedi edrych mlaen at hon a gesh i mo'n siomi!

Cyfweliad "The Director's Chair" a Scorsese

Comments

Popular posts from this blog