Ffilm: Sinema

Invasions barbares, Les (2003)
Cyf: Denys Arcand

Wedi i hon ennill y gwobrau Sgript Ffilm ac Actores Gorau yn Cannes 2003 r'on i'n edrych mlaen yn arw i weld y ffilm Quebecois hon. Ches i mo'n siomi (am yr ail waith wythnos yma!). Roedd hi'n sdori am ddyn yn marw o ganser ac yn ceisio dod i delerau a hyn a chymodi gyda'i fab alltud sydd wedi dychwelyd o'i waith fel stockbroker yn Llundain. Mae'r ffilm yn trin y mater mewn ffordd ddeallus iawn a byth yn insyltio'r gynulleidfa drwy dwpio'i hun (dumbing down?), mae'r sgript wir yn danbaid o ffraeth a bu i mi chwerthin drwy'r ffilm (a dim jest ar y boi'n chwyrnu o mlaen i!). Mae hi hefyd yn drist wrth gwrs ond mae fel eich bod chi hefyd yn dod i delerau a'r ffaith fod Rémy wyllt, yn gorfod marw, a'i fod wedi newid pethau gyda'i fywyd.

Mae yna gymaint o gymeriadau credadwy, difyr ac, yn bwysig, amherffaith ynddo fel na allwch chi help bod yn rhan o'r daith. Ffilm sy'n taro'r balans a ddim yn disgyn mewn i or-sentimentalrwydd ac sydd uwch oll yn codi eich calon.

Un peth oedd yn nagio...ydi 'sbytai Montreal mor ddrwg ac y maent yn y ffilm? Sgersli bilif!

Mae na edefyn difyr-ish ar hunaniaeth Quebecois ac anibyniaeth ar fforwm y ffilm ar IMDb (lot yn Ffrangeg gyda llaw).

Comments

Popular posts from this blog