Ffilm: Sinema (Gwyl Pictiwrs Cymru)

I'll Sleep When I'm Dead (2003)
Cyf: Mike Hodges


Mae o wedi gwneud sawl ffilm dda: Get Carter(1971); Flash Gordon(1980) (ydi...mae hi'n dda iawn mewn ffordd pnawn dydd Sadwrn glawiog); Croupier(1998) yn ddiweddarach. Ond, mae hefyd wedi gwneud sawl ffilm sydd heb hyd yn oed hitio'r radar, ac yn anffodus deud, mae hon yn un o'r rheiny.

I ddechrau mae Clive Owen yn actor allai fod yn fawr iawn, ond yn hon mae'n ddi-fflach ac yn pwdu o gwmpas y lle fel sach datws fawr farfog. Mae o'n edrych yn bord hollol.

Yn ail, mae'r perfformiadau eraill mor bren a phont Penmaenpwl, yn gadael ti'n gwingo (yn arbennig y ddynes gefn gwlad Cymreig "I've been to London, twice. I was scared"...FFFYCOFFFYRHALIWRJIRAFFUFFAR!). Dim posib cael ffordd mewn i unrhyw ddarn o'r ffilm wedyn.

Yn drydedd, mae'r deialog yn dod allan o gegau'r actorion fel dribl babi blwydd, deud y gwir does fawr y gallan nhw wneud gan fod y sgript mor sdiff ac amlwg.

Yn bedwerydd ac yn eithaf pwysig yn fy marn i am ffilm thriller, does dim tensiwn o gwbl yma. Mae'r holl beth yn plodio yn ei flaen at ddiweddglo sy'n llwyddo i fod yn amlwg a drysu rhywun r'un pryd.

Mae'r cymeriadau'n geezer stereotypes plaen heb unhrywbeth i'w codi yn uwch na darllen llinellau a'r sinematograffi'n ennyn dylyfu gen yn hytrach na ennyn cynnwrf.

Ta waeth. Doedd hi ddim yn ffilm o Gymru, dim ond wedi ei ffilmio yn rhannol yng Nghymru. Pediwch wir Dduw a mynd i'w gweld, does na ddim gronyn o werth ynddi. Gwyliwch Home and Away neu The Bold and the Beautiful - o leia gewch chi laff fan'na.

Comments

Popular posts from this blog