Ffilm: Sinema

Big Fish (2003)
Cyf: Tim Burton

Rwan, wedi gweld trailer o hwn ar y teli a stills ohono fo r'on i'n sgeptig iawn o faint mor felys oedd o am fod, ac mi geshi mhrofi'n iawn ac yn anghywir a'n siomi ar yr ochor orau.

Mae'r ffilm yn son am fab yn ceisio dod nol o dramor i weld ei dad, sydd ar ei welu angau, ac sy'n ceisio gweld trwy o straeon a raffwyd iddo pan yn blentyn ac y mae ei dad yn taeru i fod yn wir. Mae'n mynd mewn i fyd straeon ei Dad ar sawl achlysur ac y rhain yw'r elfennau yr oeddwn yn eu hofni. Mae na chydig gormod o eisin ar rai darnau a dyw ochor dywyll Burton ddim yn dod trwodd cymaint ag yn Edward Scissorhands (er yr un sefyllfaoedd "white picket fences" sydd yma), ond wrth i'r ffilm fynd mlaen roeddwn yn cael fy nhynnu yn bellach ac yn ddyfnach mewn i'r stori fel bod y tad a'i straeon o'n fy hudo i hefyd. Erbyn y diwedd roedd lwmpyn go hegar yn fy ngwddw a sylwais mod i wedi llyncu'r abwyd ac wedi fy nal (bwm bwm...och!).

Mae acenion deep sawth MacGregor a Bonham Carter yn gachu ond dydyn nhw ddim yn sbwylio ffilm fach bleserus iawn. Neu ella taw fi oedd mewn tymer dda annisgwyl!

Comments

Popular posts from this blog