Ffilm: Dogfen

Welish i Dark Days (2000) gan Marc Singer ar BBC 4 on 2 neithiwr a chael profiad eitha ysgytwol. Ffilm sy'n dilyn bywyd rhai o'r bobol ddi-gartref yn nhwnneli subways Efrog Newydd. Mae storiau rhai o'r bobol yn hunllefus, tra'r oedd un boi yng ngharchar fe gafodd ei blentyn o ei dreisio ac yna'i lladd gyda'i choes a'i braich yn cael eu torri ffwrdd. Roedd y tad yn teimlo euogrwydd dwfn iawn am hyn am ei fod heb allu gwneud dim amdan y peth. Dim rhyfedd fod y boi wedi suddo i'r fath ddyfderoedd. Hollol dorcalonnus. Roedd y soundtrack gan DJ Shadow hefyd yn wych ac yn siwtio'r darn i'r dim. "Midnight In A Perfect World" yn glasur.

Comments

Popular posts from this blog