Gigio: Jazzflasus

Fues i weld Courtney Pine neithiwr draw yn yr Engine Rooms ym Mae Caerdydd. Oedd o'n wych fel arfer er chydig yn fwy subdued nag arfer ef osawl can lle nad oedd yn chwarae o gwbl. Mi ddudodd o fod o wedi blino wedi teithio lot...Ond mi gychwynnodd y set yn gret gyda fersiwn o'r glasur "Sunny" gan Bobby Hebb oed yn eitha arferol i gychwyn wedyn fe chwalodd o hi'n racs. Mi aeth drwy sawl steil gwahanol o Affricanaidd i Reggae i Jazz-Funk mwy traddodiadol ond pan oedd o ar ei Sax, roedd yn anghygoel. Mae'r synau sy'n dod allan o'i offeryn weithiau jest yn eich synnu chi, gafon ni ddim y tric "dau sacs r'un pryd" ond hei gafon ni amser da iawn.

Mae na tiwns gan Courtney fan hyn.

Comments

Popular posts from this blog