Ffilm: DVD

Carne tremula (1997) / Live Flesh
Cyf: Pedro Almodóvar

Ffilm drawiadol arall gan y meistr Sbaeneg. Ma pob un ffilm dw di weld ganddo wedi bod o safon mor uchel ym mhob adran, miwsig, stori, cymeriadau, sinematograffiaeth a dydi hon ddim gwahanol. Sdori am enedigaeth a chreu bywyd a sut mae pobol yn dinistrio bywydau hefyd. Mae'r ddinas yn brif gymeriad eto yn hon ond Madrid yw hi tro ma, mae'n cael ei cyflwyno fewn enw o fewn y 5 munud cyntaf, dyna faint mor bwysig ydi'r llefydd yma i straeaon Almodóvar. Yn y ffilm dim ond y ddau berson gonest sydd yn diweddu'n hapus a nhwythau wedi dod o fod yn isel iawn, mae pob un arall yn colli bron popeth sydd yn agos atynt. Mae na ddelweddau ynddo sydd dal yn sownd yn fy mhen, y rhan fwyaf yn symbylu dau yn uno/gwahanu.

Comments

Popular posts from this blog