Ffilm: DVD

Lost In La Mancha (2002)
Cyf: Keith Fulton a Louis Pepe

Wel, am fasdad anlwcus oedd Gilliam ar set hon. Druan o'r boi, ond nath y curse daro'r set gyda'i holl nerth, dilyw, salwch, iw nem ut ddei had ut. O'n i'n dechra meddwl fod y curse wedi hitio'n ffacin DVD player i, oedd y basdad yn sgipio nol i'r cychwyn drwy'r amsar a mynd ar y nyrfs i. Iesu! (newydd ddarllen y paragraff uchod yn ol, am Gymraeg hyll! Oes na eiria Cymraeg yna dwad?).

Beth bynnag, ffilm ddogfen ddigon taclus am y broses o wneud ffilm, ond ma'n rhoi rhywun off bod yn gynhyrchydd ffilm budget $33 miliwn am byth. Oedd y ffilm ei hun yn edrach reit ddifyr 'fyd. Wel, ella daw hi rownd eto, pwy a wyr.

Comments

Popular posts from this blog