Ffilm: DVD
Bande a part (1964)
Cyf: Jean Luc Godard

AMe'n rhaid cyfadda mod i wedi ffeindio lot o'r ffilm yma'n draffarth i'w gwylio. Mae'r ddau ddyn sy'n brif gymeriadau mor anhoffus mod i'n ffeindio nhw braidd yn ddilfas yn arbennig Arthur. Mae gan Franz rywfaint o ddynoldeb sy'n ei godi uwchben Arthur ond eto mae'n y ngadael i'n oeraidd. Mae Anna Karina, sy'n chwarae Odile, yn rhoi perfformiad disglair ac yn cadw diddordeb rhywun drwy'r ffilm, a mae na rai golygfeydd sydd yn hudol (yr holl olygfa caffi yn cynnwys y ddawns, y symud seddi, y munud o ddistawrwydd; y ras drwy'r louvre; a'r wers Saesneg) ond wedi dweud hynny dydy hi ddim yn cysylltu a fi fel yr oeddwn wedi gobeithio iddi wneud.

Mae Tarantino ac eraill yn hawlio hon fel un o'u dylanwadau mwyaf, ond o'm rhan i: antur bach i fyd artsy sinema Ffrainc oedd hi gyda cwpwl o emau yn y canol.

Comments

Popular posts from this blog