Dwi'n Caru Coed Aberneint (ac mae Twm Morys 'fyd...)
Fues i adre'n Nolgellau dros y penwythnos gan fynd am dro bach fyny Pen-Y-Banc, rownd Rhyd Wen, lawr trwy goed pin Coed y Pandy, ymweld a rhaeadr Coed Aberneint wrth ochr yr afon Aran, heibio'r tanerdai adfeiliedig a nol lawr i dre heibio tai bach prydferth blith draphlith a phendramwnagl y Domen Fawr.
Ac yn goron destlus ar y penwythnos bach hwyliog ac i dwymo'r galon yn bellach dwi newydd ddod ar draws cerdd fach hyfryd ar goedlan newydd Goed Aberneint a sgwennwyd gan Twm Morys a phlant Ysgol Y Gader . Fe'i sgwennwyd wedi i'r safle gael ei wneud yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 2002, ac mae hi wir yn lecyn bach hudol. Fe wariais i wythnosau cyfan o mhlentyndod yn sgrialu o amgylch y coed ac i fyny a lawr yr afon, yn chwilio am antur cudd ac adeiladu dens. Dwi'n falch iawn fod rhywun, ac yn arbennig o falch fod un o'm hoff feirdd, wedi sgwennu mor serchog a hiwmorys am y lle. Di...
Comments