Lle mae'r petha dwi'n ffeindio ar y we/synfyfyrio amdanynt yn dod yn un potas lobsgowlsyd bler.
Get link
Facebook
Twitter
Pinterest
Email
Other Apps
Celf/Y We Mae na ddetholiad reit neis E-Gardiau Celfyddydau Cymru ar gael ar wefan y Cyngor Celfyddydau. Taclus.
Get link
Facebook
Twitter
Pinterest
Email
Other Apps
Comments
Popular posts from this blog
Hanes Cymru
Y Drych Digidol - Trysorau - Hunangofiant Smyglwr
Tra'n ychwnaegu sdwff i'r Rhegiadur nesh i chwilio am y gair 'trythyllwch' (sexual indulgence) ar y we a ddes i ar draws yr em yma, sef hanes y dihiryn a sgamp (a llofrudd...), William Owen oedd ei hun yn 'ymdrabaeddu mewn trythyllwch'!
Mae ei hanes yn ddifyr iawn ac wedi ei gofnodi yn y Llyfrgell Gendlaethol yn ei hunangofiant. Am fywyd: ar y mor, yn ymladd Sbaenwyr a Lladron eraill a merch ym mhob porthladd. Yarrr!
Sdwff da iawn ar y wefan drych digidol ma: mapiau cynnar Lewis Morris a William Morris o Aber y Fawddach a bas data chwiliadwy o luniau Geoff Charles o'r 20fed ganrif .
Dyma rai lluniau o Ddolgellau:
Agoriad Neuadd Sir Feirionnydd, Dolgellau, Ion 30, 1953.
Hen gegin ffarm Dewisbren, Rhydymain 1952.
Arwerthiant Da Duon, Mart Dolgellau, Mawrth 26, 1954. (Fan hyn mae nhad yn arwerthu!)
Hefyd wedi darganfod hwn ar archif bandiau link2wales.co.uk :
Moblogio Caerdydd yn 50-rwbath
O dystiolaeth y lluniau , mae'n edrych fel bod y gwr hwn a'i gameraffon yn gweithio yn y cynulliad.
Mae'n hoffi coffi, ceir a hard rock cafe!
Comments