Y chwerthiniad olaf i Buñuel?

Dead man laughing (o'r Guardian)

Sdori fach hyfryd nesh i fethu dros y dolig (diolch byth am bloglines ynde...), yn adrodd y dirgelwch olaf ynglyn a thranc y cyfarwyddwr swrealaidd, Luis Buñuel, a greodd ffilmiau fel "Un Chien Andalou" , "Belle Du Jour" a "Le Charme Discret De La Bourgoisie". Ffilmiau sy'n dal i dderbyn clod y critics hyd heddiw.

Y pos olaf yma ydi, ble mae llwch Snr. Buñuel? Dwedodd ei weddw ei bod hi wedi eu cadw, abod eu lleoliad yn gyfrinach, ond mae Offeiriad Dominicaiadd ym Mecsico yn hawlio fod y llwch wedi bod dan glo ger yr allor yn ei eglwys! Tric olaf Buñuel efallai, oedd yn anffyddiwr llwyr, ar ei ffrindiau a'r byd. Ond mae ei weddw yn dweud fod hyn yn rwtsh, ac mae awgrtym taw hi oedd wedi chwarae'r tric drwy gyfnewid llwch Buñuel a rhoi'r un anghywir i'r offeiriad.

Wrth ddarllen roedd yn gneud i fi feddwl am gelf ffydd o'i gymharu a chelf anffyddiaeth. Mae celf ffydd yn aml yn ddu, yn dreisgar ac yn llawn tristwch a dioddef tra bod celf swrealaidd hefyd yn dangos trais ond yn aml yn chwareus. Hynnyw yw, mae gobaith ffyddwyr ymewn bywyd arall yn dilyn hon a gobaith anffyddwyr yn natur dynol yn y byd hwn. Mae'n atgoffa fi o'r olygfa yn "The Seventh Seal" gan Ingmar Bergamn a welais yn ddiweddar, lle mae'r arlunydd yn yr eglwys yn paentio murals erchyll ac yn cyfaddef fod yr offeiriad yn gofyn iddynt fod mor dreisgar a phosib er mwyn dychryn ei braidd i aros yn driw i'r eglwys, drwy gynnig eu unig obaith iddynt. Efallai fod anffyddwyr, gan wybod fod dim iddynt wedi marwolaeth, yn gallu gwneud y mwyaf o'u bywydau, ac fod celf swreal yn adlewyrchu hyn.

Neu ella mod i jest yn sbowtio cachu rwtsh pur ar fore dydd Sul syndod o ddi-hangofyr.

Comments

Popular posts from this blog