Wil Salt - Heddwch I'w Lwch

Wel, mae un o gymeriadau mwya *lliwgar* Dolgellau wedi marw. Wil Salt, ne Salty.

Alci llwyr, ond un digon diniwad. Pan oedd o ddim yn chwildrins oedd o'n gyrru tacsis nol a mlaen o glwb nos hynaws y Sandandcer, Bermo, yn diodda joskins a chafis yn racs ac yn chwydu ar eu ffordd nol i dre (ac mae hynna'n cynnwys fi).

Ond y rheswm dwi'n blogio amdano ydi am ei fod yn mwydro pan oedd o'n llanast ac yn dod fyny efo'r petha mwya swreal. Ella nad ydi ei ebychiadau cymysglyd yn ddoniol nac yn ddifyr i unrhywun arall ond o'n i jest yn meddwl fod hi ond yn deg i rwbath fod ar y we amdano (ac os oes gan rywun gof o ragor o'i leins, rhowch nhw'n y sylwada).

Mi sefodd dan fwa Neuadd Idris o flaen y sgwar gan stampio'i goes dde ar y llawr yn herfeiddiol a bloeddio canu'r gan (y'i pennodd ei hun yn sicr) "Wi dont smoc Mari-wana un Dolgellaaaaa! Wi dont smoc Mari-wana un Dolgellaaaaa!" " x 47, pan oedd hi'n berffaith glir fod y gwrthwyneb yn wir, petasai'r cradur yn gallu gweld yn bellach na'i drwyn mefusaidd.

Lein arall oedd o'n ffond ohoni oedd dod fyny atat a thynnu sylw pobol o'i gwmpas (yn arferol doedd neb yno i dynnu eu sylw): "Hei, hei, boi da di hwn. [gan brocio'n galed yn y solar plexus] Boi da di hwn chi...Eye of the tiger. Eye of the tiger!"

A'r gorau gesh i oedd braich rownd f'ysgwydd tu allan i byrgyr fan "7ravel Chef" Paul Hwmffras ac adrodd sdori o'i hanas yn y gorffennol niwlog:

"Ei! Ei! Fi, ty'mo. Fi, ty'mo. Rali. 1964. Ewadd! Rali 1964!"

Hwyl Wil. Fydd dre ddim cweit ru'n peth hebddat ti debyg.

Comments

Anonymous said…
Oedd Wil yn arfer baglu mewn i Spar ac yn mymblan pa sigarets oedd o isio, ac mi on i'n anghofio bob tro (ugain Sky king size). Mi fasa'r ddau ohona ni'n trio dallt ein gilydd wedyn yn diwedd mi fasa fo'n cael ei ffags ac yn gofyn "Be di'ch enw chi?" wedyn yn sbio'n flin arna i am dipyn wedyn yn cerdded allan. *Bob* tro :D

('')<

Popular posts from this blog