Rrrrrarrrrgol, sbiwch be sy fama, dio'n deud prrryd ma marrrt yn Sarrrn dwa?

Fforwm Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Iawn, ddylswn i ddim cymryd y piss, mae Clybiau Ffermwyr Ifanc yn go bwysig. Nhw oedd yr unig rai oedd yn mynd a ni i lefydd i yfad pan o'n i'n 13, ac o'n i ddim yn meindio'r canu ac actio chwaith, siawns i ddianc o dre ac adra a chael ffag efo'r ogia tu ol y neuadd yn Brithdir.

Ydw, rwy'n cyfaddef oll, roeddwn yn aelod llawen fy hun. Roeddwn yn dal fy ngheffyl a throl yr holl ffordd i Brithdir yn bythefnosol, yn mynychu barn dances yn Cerrig, yfad llond trol o Diamond White a rolio gwmpas ar lawr y buarth efo torth neu ddwy, cyn cael pigiad ar y nghoc yn piso ar y danal poethion. Gwaeddi'n groch ar ddiwadd y noson i drio ffeindio Arfon/Geraint/Hywel oedd ar goll ar ben bryn wedi colli'u sgidia cyn dal mini bys Gwji Ganllwyd adra a chwdu allan o'r drws cefn tra'r oedd y blydi thing yn mynd lawr yr un ffordd a gerddodd Mari Jones i nol ei Beibl. Oedd Mam a Dad rili'n hapus yn gadael i fi fynd i'r ffaswin beth? Chwarae teg iddyn nhw!

Haleliw amsar da. Hir oes i CFfI!

(ond ma'r sgyrsia ar y fforwm yn reit ffycin ddoniol - ma'r drafodaeth am bosibliadau yfed a ffwcio'r Roial Welsh yn glasur

Randym Cwot: "ta waeth am y talent, ma hynnu yn garantid yn bob rali ond pa clybia fudd y talent yma yn dod o? d ochre bala a ballu yne?"

Lyfli)

Comments

Popular posts from this blog