Rhagflas o ddanteithion Pictiwrs Yn Y Pyb

Dyma grynodeb o'r campweithiau cryno fydd yn dangos yn noson gyntaf "Pictiwrs Yn Y Pyb"...

Trafferth Mewn Tafarn (11 mun)
Ysg/Cyf: Eurig Salisbury

Mae bardd yn cyrraedd tref ac yn dod o hyd i lety ar gyfer y noson. Yno, daw ar draws hogan ddel, ac wedi iddo brynu gwin a bwyd drud, mae'n gaddo ymweld â hi yn ystod y nos. Ond wrth i'r noson fynd yn ei blaen a fynta'n fwy meddw aiff ei holl gynllun ar chwâl.


Grim (10 mun)
Ysg/Cyf: Gareth Gwynn, Nia Jones, Rhys Padarn

"Mockumentary" yw hon, yn ein arwain ar daith drwy ddiwrnod ym mywyd pedwar “Grim Reaper” yn Aberystwyth, ond sydd heb cweit ddeall dwyster eu swydd.


Gelyn Neu Gyfaill (13 mun 23 eiliad)
Ysg/Cyf: Neil Wagstaff

"Mae Beci'n mynd rownd mewn cylchoedd; yn chwilio am atebion i gwestiynau bywyd a chariad, ond yn methu'n glir a mynd heibio ei diffyg hunan-hyder pan ddaw hi at ddynion. Yr unig beth mae hi ei angen ydi gwallt a dannedd syth, bronnau mwy a choesau hirach, llwythi o ddillad newydd, deiet iach a chadw'n heini…Ond a wnaiff Beci fyth dod o hyd i'w Mr Darcy?"

www.thosepeople.co.uk

Ci Fach Twrpi (5 mun)
Ysg/cyf: Ben Mars

“Ger y goedwig dywyll, cedwir hen ddyn ar ddihun gan gyfarth di-baid ei gi ond mae'n dewis ffordd eithafol iawn o dewi'r anifail.”

http://www.benmars.com/ - http://www.dogturpie.com/

D?r Dwfn (8 mun)
Ysg/Cyf: Catrin Clarke

Mae Omeed, ffoadur Somaliaidd, yn cael trafferth amgyffred ei hamgylchedd newydd, diarth – ond daw i sylwi taw’r unig ffordd i ddod i dermau â hyn yw i blymio mewn iddo.

www.fictionfactoryfilms.com

Rhyfel Cartref (13 mun 23 eiliad)
Ysg: Nia Melville / Cyf: Sian Boobier

Mae bywyd cartref Lily wedi cyrraedd pen set: mae'r plant yn ffraeo'n ddi-baid, pwysau cyson gan y gwaith a'r gwr yn disgwyl am ei swper. Wrth ddianc i fyd ei ffantasi caiff ryddhad am ennyd, ond yw hi wedi mynd yn rhy bell i ddod nol?

www.fictionfactoryfilms.com

Y Golau (9 mun)
Ysg: Hefin Jones / Cyf: Euros Lyn

“Daw Bryn, yn ei swydd erchyll yn y ddinas, i wybod am weithred diweddaraf ei gyfaill anystywallt di-daro i gael y sac. Caiff ei ysbrydoli i'w efelychu, gan ddychwelyd adref heb hid yn y byd. Ond am ba hyd y pery'r ddelfryd?”

Comments

Popular posts from this blog