Pictiwrs Yn Y Pyb

Dyma ni, datganwn yn hy a bloeddiwn o uchelfannau ein tai a chopaon ein mynyddoed - mae noson ffilmiau byr Cymraeg "Pictiwrs Yn Y Pyb" wedi cyrraedd!

Dewch yn llu a'ch mamgu
Mi fydd yn ddu fel fagddu
A gobeithio fydd dim pry, fry
...yrm ar y sgrin...ym gry?


Ta waeth fy rwdlan - pasiwch y neges mlaen at eich ffrindiau oll ac os da chi'n nabod rhywun sy'n gwneud ffilmiau anfonwch nhw i'm cyfeiriad. Mae fy nghyfeiriad ebost yn fy mhroffil.

Pictiwrs Yn Y Pyb - Dewch yn llu!

Comments

dros said…
aa, newydd feddwl. ddylwn i fod wedi llofnodi'r peth. tmod, i neud o'n 'proper arty'...

dewch yn llu, bobol! (dwi'n trio gweithio ar gael cynrychiolydd/cardbord cut-out yno ar y noson...)
Nwdls said…
Dylet ti fod wedi stampio dy farc rwla'n slei.

(Ti'n anfon rywun i gadw llygad arnan ni y?)

Popular posts from this blog