Mwy am flogio yn Gymraeg o'r UDA

Welsh Blogs, Part II - Suite101.com

Mae'r erthygl uchod yn ail ran o gyfres o erthyglau mae Sarah stevenson yn sgwennu am y blogosffer Cymraeg (dyma rhan 1). Y tro hwn mae hi'n canolbwyntio ar flogiau sydd a lleoliad daearyddol pendant ac yn cyfeirio gan fwyaf a gwefannau dysgu Cymraeg.

Mae'n wir nad oes cymaint a hynny o flogiau lleol, hynny yw blogiau sydd wedi eu cychwyn gyda'r brif amcan o drin a thrafod pynciau lleol. Efallai gellir cyfri blogmenai yn un enghraifft o flog sydd yn bennaf yn blogio am bynciau perthnasol yn lleol, yn arbennig gwelidyddiaeth a iaith. Ond ar wahan i'r enghreifftiau i ddysgwyr yn yr erthygl, prin ydynt.

Efallai fod hyn yn deillio o'r ffaith fod rhyw syniad fod blog sy'n gwasanaethu cymuned (yn arbennig un wledig) ddim am fod a digon o ddarllenwyr sydd a diddordeb yn y pynciau dan sylw i'w gynnal, ond faswn i'n meddwl drwy gychwyn blogiau grwp y gall hyn fod yn estyniad i'r gymuned ac y gall fod yn ffordd dda iawn o uno cymuedau gwledig gwasgaredig. Pa ots faint sy'n darllen y peth os mae'r pobol sy'n ei ddefnyddio yn ei fwynhau.

Faswn i'n ffeindio blog Dolgellau neu hyd yn oedd Lanfachreth yn un hynod ddiddorol (ac nid er mwyn cloncan a hel straeon!), gellid cael trafodaethau ar hanes lleol, erthyglau o'r archif, a phethau fel newyddion cyffredinol, hysbysiau.

Mae papur wythnosol Dolgellau, "Y Dydd", wedi cael ei amsugno i'r Cambrian News gan ei droi'n sdwnsh homogenous ddi-gymeriad. Fasa blog cymunedol gyda golygydddion penodedig yn ffordd wych o ail afael yn y syniad o bapur lleol mewn ffordd newydd gyda pherchnogaeth leol bendant a chyda'r cyfle y tro hwn i bobol ymateb yn syth ac i straeon yn hytrach na gorfod aros am wythnos i'ch llythyr gael ei gyhoeddi (ella). A buasai cwmniau lleol dal yn gallu hysbysebu arno petasai digon o bobol yn ei ddefnyddio (hwn yw un o'r prif resymau roedd rhai yn prynu "Y Dydd": i weld dydddiadau sels yn y mart, dyddiadau cyfarfodydd cyhoeddus ac ati).

Be da chi'n feddwl? Oes enghreifftiau o hyn yn bodoli yn bresennol? Faint o'r mentrau iaith sy'n gwneud hyn? Ydi Penrhyndeudraeth wedi gwneud rwbath tebyg? ...Ydyn, o fath ond does dim blog newyddion gyda chyfrannwyr cyson yno. Sgwn i os fasa fo'n gweithio - gyda craidd o 2-3 person brwd - basa dwi'n meddwl.

Comments

Nic said…
Mae sôn bod cwpl o fois Llangrannog am ddechrau blog-ar-y-cyd am fywyd ym mhentre wrth y môr gorau Cymru, ond paid â dal dy wynt.

Popular posts from this blog