Mw Mw, Me Me, ta Cwac Cwac?

Sounds of the World's Animals

Dwi'n cofio darllen llyfr Tintin yn Ffrainc a methu dallt pam fod Smwt/Milou, y ci bach, yn mynd Wouah! yn hytrach na Wow! a'r gath yn mynd miaou yn hytrach na miaw. Wel, mae fan hyn yn esbonio oll...heblaw fod chwi^d yn Estonia yn mynd "prääks prääks"

[Diolch i Chwads am hyn]

Comments

Roedd yr Eifftiaid Hynafol yn enwi anifeiliaid ar ol y synau yr oedden nhw'n eu gwneud. Ei enw nhw am gath oedd 'Miw!'

Ond mae fy nghath i, sydd digwydd bod yn 'Milou' (fel ci tintin yn Ffraneg), byth yn mewian. Mae hi'n mynd 'Bree!' Mae'n ddigon posib felly bod anifeiliaid o wahanol lefydd yn siarad mewn tafodiaeth, neu pigiaith, gwahanol!
Nwdls said…
Ie, oedd ein cath ni (wel cath dros ffor' ond yn byw ac yn bod yn ty ni) "Blewyn", yn arfar rhoi rhyw *grewc* yn hytrach na miw. Sgil effaith cyfarfyddiad anffodus gyda bympar car. Roedd hi hefyd yn driblo'n ddi-baid ar eich glin. Ach.

...ac i barhau'r sgwrs. Os ti ddim yn clywad "siw na miw" pa fath o anifail sy'n gwneud swn "siw" os taw'r gath yw'r llall?

Popular posts from this blog