Meta-RhithFro

Mae Sion Jobbins wedi sgwennu erthygl ar y rhithfro sydd ohoni ar wefan Llen Ac Adloniant y BBC. Mae'n rhoi cyflwyniad i oreuon y we, ac dwi'n falch o ddeud fod Rhegiadur annwyl Twmffat a minnau yn eu mysg.

Dwi hefyd yn falch o weld fod blogiau Lol LwLw (blog doniol iawn wedi'i sgwennu mewn ffordd agos iawn atoch...ac sydd yn rhoi ryseitiau emyrjynsi pan nad oes gennych syniad be i'w goginio!) a BoB (dyna fyddai'n ei alw o hyn ymlaen!). Dau flog difyr ofnadwy gyda sgwennu da, sydd wir yn haeddu cael sylw pellach.

Comments

cridlyn said…
*sniff* Diolch, diolch. Hoffwn ddiolch, ymmm.. fi!

O.N. Mae'r ddolen wedi torri. un gywir.
Anonymous said…
Wel, mae angen slapio cefn *ahem tagu tagu*, sori, rhoi clod lle mae'n haeddiannol does. ;)

[dolen wedi'i thrwsio, diolch]

Popular posts from this blog