Blwyddyn Newydd Dda!

Dyma treat bach i chi - fi ar Harmonica, blwyddyn cyn dwetha...

Cliciwch fan hyn(476k/12 eiliad) i'w lwytho i'ch cyfrifiadur ac yna'n syth i'ch iPod!

Comments

gringo said…
Oes cytundeb recordio da chi, 'te?

:)
Nwdls said…
Ddim eto...ond efo talent fel'ma allan nhw ddim fy anwybyddu am hir!
cridlyn said…
Croeso nol i'r blog, Mr Nwdls. Bu'n rhy hir, rhy hir. Rhaid aros tua awr i wrando ar y dantaith cerddorol yn ystod f'awr ginio, desgraciadamente.
Nwdls said…
Diolch am eich geiriau caredig Mr C, dim ond gobeithio y byddwch garediced a bod yr un mor ystyrlon gyda'm campwaith chwyth-harmonig.
cridlyn said…
Braf eich gweld yn mentro i fyd 'swrealaeth yr organ geg'. Dim digon o bobl yn ddigon dewr yn hynny o beth y ddyddie hyn. Byddaf i'n rhoi cynnig ar ol-foderniaeth y delyn Iddewig ar fy mlog yr wythnos nesaf.
dros said…
*total cuteness!* fel fydde lindsay lohan yn dweud.
cwestiwn ddo - sut ti'n neud hynna? rhoi ffeil i fyny ar dy flog i rywun arall ei lawrlwytho? hud? lledrith? combinasiwn o'r ddau?
Nwdls said…
Mae gan fy ffrind barth www.wwfmdpc.com, ac mae'n cadw sawl peth ar y gofod-gwe yna, yn cynnwys fy nghampwaith byrfyfyr. Dwi wedyn jest yn lincio i'r man lle cedwir y ffeil. Mae na ambell i beth arall yno os da chisio cip, mae'r fideo Paul Newman yn glasur, ond ella fod y joc ddim ond yn gweithio rhwng ffrindia sy'n nabod Paul...

(gyda llaw, os ma gynnoch chi ddiddordeb: wwfmdpc = West Wales Free Mobile Disco Party Crew)

Popular posts from this blog