Penblwydd hapus i ti...
Penblwydd hapus i ti, penblwydd hapus i ti, penblwydd contllyd y basdaduch Regiadur , penblwydd hapus i ti - wedi cyrraedd y 500fed rheg heddiw.
YMLAEN AT Y FIL!
Posts
Showing posts from September, 2004
- Get link
- X
- Other Apps
Lluniau o'r gofod a llongau i hwylio drwyddo
"Space Art in Children's books 1950's to 1970's"
Mae hwn yn wefan lyfli gyda phentwr o luniau o longau gofod a siwtiau lleuad ffynci wedi eu trefnu'n gronolegol. I ddilynydd sci-fi mae hwn yn wefan ma raid ei phori. Mae'n atgoffa fi o edrych ar lyfr "Look and Learn" hen fy nhad pan o'n i'n 9 ,wedi i mi eu ffeindio mewn tea chest ffags Navy Cut yn y beudy llychlyd yn Llanfachreth. Mmmmnnnnostalgiattack.
- Get link
- X
- Other Apps
Caethiwch Pensaeri Rhyddion Beijing!
Mae gwefan BadJianZhu yn bodoli i ddangos a chywilyddu adeiladwaith hyllaf Beijing - y ddinas sy'n tyfu mor gyflym fod y cynlluniau adaeiladu'n gorfod cael eu contractio allan ysgolion cynradd a'u modelu gan ddefnyddio papur crepe a pritt-stik yn unig.
Efallai dylia rhywun gychwyn gwefan debyg ar adeildadau newydd Caerdydd ...
- Get link
- X
- Other Apps
Y byd a'i bethau mewn tri dimensiwn
Diolch i Mansh am bwyntio fi i gyfeiriad Fullscreen QTVR (Quicktime Virtual Reality) . Gwefan lle mae'n bosib cael vistas cyfangwbl 3D, ac nid jest yn horzontal ond yn vertical a diagonal. Yr HOLL ffordd rownd.
Mae na hyd yn oed un anghygoel yna o du mewn ceg rhyw ddoctor!
- Get link
- X
- Other Apps
Sioc Horyr! Atyniad newydd sydd ddim yng Nghaerdydd!
Dwi'n falch o glywed fod pobl Abertawe am gael Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn eu dinas. Rwan fod y ganolfan hamdden (oedd wedi mynd yn siabi iawn) wedi cau, mae llawer llai o bethau i ddenu ymwelwyr o ffwr' a Chymry eraill r'un fath. Mae'r adeilad yn swnio'n ddiddorol (er yn defnyddio "pedwar math o lechi" yn debyg iawn i Ganolfan Y Mileniwm - ond pa ddrwg sydd yn hynny a deud y gwir) a gobeithio bydd yr amgueddfa hefyd. Mae Abertawe'n aml yn cael ei anghofio, ac mae hynny'n dristwch braidd.
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm Gymreig "Textual @ttraction" yn cael sylw ar y we...
Mae gwefan Engadget wedi dod ar draws y ffilm Textual @ttraction gan Ieuan Morris. Mae hi'n ffilm fach dda yn weledol, ond weles i hi heb y nodau bodyn i'm ffon, felly roedd hi'n annodd cael crap ar beth oedd yn mynd mlaen.
(O ia, a mi gath Rwdls mensh ar blog ffilm Cinema Minima am adrodd y sdori hon gynta! Iei!)
- Get link
- X
- Other Apps
#Caerdydd Tu-fewn Tu-fas#
Dwi'm yn gwybod os dwi di blogio hwn o'r blaen ond godes i'r llyfr ( Real Cardiff gan Peter Finch ) yn y Sdeddfod a ffeindio fo'n lyfr difyr iawn i'w godi a'i ddarllen fymryn ar y tro, yn arbennig gan fy mod wedi byw yng Nghaerdydd rwan ers bron i 9 mlynedd (!). Mae'r wefan yn cynnwys llawer iawn o ddisgrifiadau ac anecdotau o ardaloedd amrywiol Caerdydd.
Mae hefyd yn sgwennu estyniad o'r llyfr hwn am gyffiniau Caerdydd , edrch mlaen i weld be ddaw o hwn 'fyd. Mae ganddo ffeils audio o farddoniaeth ag ati yn ogystal a lluniau lu ohono fan hyn a fan hyn heb anghofio ei farddoniaeth weledol sy'n gafael ynddai rywsut.