Mmmmmmmakeover!

O'n i'n bord ar yr hen flog, felly dyma'r steil crand newydd. Gadwch negas i ddeud be da chi'n feddwl.

Un peth sydd wedi digwydd ydi fy mod wedi colli yr holl sylwadau a wnaethpwyd ar y wefan (mmmm, ddim llawar. Ond diolch i chi a wnaeth!). Mae entation wedi mynd mas o'r ffenest a mae sylwadau blogger wedi cymryd drosodd. Dwi ddim cweit wedi gweithio allan sut mae cyfieithu'r rhan sylwadau eto ond dwi'n siwr ffendiai o cyn hir.

O ia, os ma rhywun yn gwbod sut ma cael crynodeb a linc i sylwadau diweddaraf ar y bar ochr faswn i'n falch o glywed...a hefyd sut ma gneud maint tecst y dolenni'n llai. Mae o di mynd yn masif yn awtomatig rywsut.

Comments

Nwdls said…
sylwadauauauauua
Nwdls said…
Ffac, damia, ma hynna'n shit bo ti'n gorfod bod efo cyfrif Blogger. Fydd neb yn boddran rhoi unrhywbeth, dwi'n gwybod achos dwi ddim ar flogiau eraill sydd efo setyp tebyg.

Yr unig beth handi ydi fod Blogger rwan yn anfon ebost ata i er mwyn dweud bod sylwadau newydd.

Ella fydd raid dod ag yr hen enetation nol. Ddim yn aidial ond na ni...

Popular posts from this blog