Helfa B-Mwfi

Deadly Avenger (David Sheldon, 1981) (aka Lovely But Deadly)

Un arall ar y silff o siop drysorau fids Cathays. Sdori hogan, hogan o'r enw Mary Ann Lovett, "Lovely" i'w ffrindiau, sy'n mynd nol i ysgol i gael dial ar y pushers cas ar ol marwloaeth ei brawd (wnaeth o redeg mewn i'r mor i chwilio am Tiwna a boddi tra'n 'strung out' ac wedi edrych mewn i'r haul!).

Mae "Lovely" yn digwydd bod yn rhan o all-girl 80's karate squad yr ysgol (woo ha!) sydd aga arweinydd sy'n edrych fel Sam Fox! Mae hi'n lladd Captain Magic drwy sdicio ei dope lawr ei wddf a wedyn yn mynd ar ol y big bois.

unwaith mae;r ffilm yn mynd yn action i gyd mae'r actio'n gwella (am fod neb llawer yn gorfod siarad rhagor) ac o'r herwydd, mae'r laffs yn diflannu. Piti garw, ond, fel 'na roedd rhaid iddi orffen.

Felly mae "Lovely" yn aros ar y silff yn hytrach na cael swop nol efo'r siop.



O ia, a mae na un shot efo ditectif y dref efo un o'r rhain ar ei ddesg: "Electronic Detective" - gwychder yn wir.

Comments

Popular posts from this blog