Blog newydd i restru ffilmiau (clywch WAW enfawr...)

Dwi wedi sefydlu blog bach newydd er mwyn rhestru'r ffilmiau dwi wedi eu gwylio yn lle rhestru nhw fan hyn a diflasu pwy bynnag sy'n darllen y sdwff ma hyd yn oed mwy.

Enw'r wefan yw Stafellddu, felly os oes ganddoch chi ddiddordeb, sdiciwch hi yn eich ffefrynnau neu dolennwch iddi yn eich blog neu jest anwybyddwch hi'n gyfangwbl (llawer mwy tebygol), beth bynnag dyma'r cyfeiriad gwe:

http://stafellddu.blogspot.com

Mae Blog Rwdls jest am fod ar gyfer sdwff an-ffilmaidd (gobeithio) a crap dwi'n ffendio ar y we felly falla na fydd o'n cael ei ddiweddaru cyn gymaint ag oedd o, ie, hyd yn oed llai.

Comments

Nwdls said…
Er wedi i mi edrych dwi di postio 373 neges ers Mawrth 2003 *gulp*...bleimi.
Anonymous said…
Helo Rwdlyn, dyma goment i ti gael dechra eu casglu nhw eto! Licio'r niw-lwc gyda llaw, dwi'n hoff iawn o'r syniad o gael Stafellddu achos dwi'm yn rhy cin ar ffilmia ma arna'i ofn. Ond os na ti di gweld Shrek 2 eto cer i'w gweld hi rwan! ('')<

Popular posts from this blog