Tranc y siopau bach a thewdra'r siopau mawr

George Monbiot - The fruits of poverty

Erthygl yn y guardian ddoe. Mae'n trafod presenoldeb a phwer gorthrymol yr archfarchnadoedd heddiw a'r ffordd mae hyd yn oed siopau cirnle nawr yn cael eu cywasgu mor dynn gan gystadleuaeth fod peryg iddynt ddiflannu. Mae'n pitio diflaniad mathau gwahanol o 'falau o siopau Prydain ond y gwir yw taw'r rhai sy'n edrych am bethau 'gwell' (yn rhesymol rhad) ydi'r rhai sy'n mynd i'r archafarchnadoedd. Mae'n gywilydd nad ydi cynhyrchwyr Cymru a Phrydain yn gallu cael pris call ar eu cynnyrch, allan nhw ddim cystadlu ar y scale ryngwladol economaidd frwnt yma.

Dwi wedi gweld 'first hand' y dull yma o ddefnyddio llafur rhad tra'mn gweithio yn Awstralia. Gwariais 6 wythnos yn gweithio ar ffermydd tomatos (ymysg ffrwythau eraill...) a gweld y pobol Indonesiaidd yn gweithio yno ar wahan i;r backpackers (a oedd ma'n siwr yn ffrynt i'r bobol oedd yn gneud y gwir waith). Roedd si o gylch y gweithwyr fod yr Indonesiaid oll yn byw ar dir y ffarm ac yn cael eu talu 1 wythfed o dal backpacker, a hynny ar faint o kilos o domatos roeddent yn pigo mewn diwrnod. Wrth gwrs gallai'r toms yma fod yn cael eu anfon o amgylch y byd gan eu bod yn cael eu pigo'n wyrdd-goch a chyda sawl wythnos i aeddfedu'n iawn.

Mae'n dristwch gen i nad ydw i'n gallu prynu cig na llysiau call o siop fach gan eu bod oll yn cau am 5 (neu gynharach) a dwi byth yn ddigon trefnus ar ddydd Sad i wneud fy siopa wythnosol. Ydyn nhw felly yn fictim o newid mewn ffordd o fyw ag felly oes na unrhyw ffordd iddynt ddal fyny efo hyn ac achub y blaen ar yr archfarchnadoedd. Ddim os mae llefydd fel Tesco Metro yn codi ar hyd y lle yn tanbrisio'r siopau bach a rhoi gwasanaeth cachu o gymharu.

Ydi hi ddim yn bosib i bwtsiars agor awr neu ddwy yn hwyrach? Fuasan nhw'n gwneud yn well o hyn, neu fasa nhw jest yn colli rhagor o bres?

Beth bynnag, mae angen cadw llygad barcud ar sut mae'r archfarchnadoedd yn gweithio a sicrhau eu bod yn rhoi prisiau call am gig a llysiau i gynhyrchwyr Cymreig yn ogystal a'u labelu'n gryfach fel bod pobol yn gallu gwneud dewis. Ydi hwn yn rhywbeth y gallai'r cynulliad wneud petasai ganddo ragor o bwerau sgwn i? Fasa hynny'n ddiddorol gweld sut gallai grwpiau lobio Tesco's et al geisio delio a hynny! Fysan nhw'n amlwg ddim eisiau colli'r elw anferth ma'n nhw'n wneud ar y foment ond fasan nhw hefyd yn gorfod talu allan am gig a llysiau Cymreig.

[/rambl distrwythr]

Comments

Popular posts from this blog