Gwersylla yn y gwyllt

(Llun: Llanfachreth)

Wedi penderfynu mynd i wersylla ar ein ffarm uwch Llanfachreth (ar ochor dde y llun uwch y coed trwchus). Bydd criw cyfun y WWFMDPC a Chymdeithas y Lloerigyddion yn mynd ar wibdaith yno ym mis Mehefin. Ddylai fod yn laff trochi yn yr olchfa, cerdded at Bistyll y Cain, sgramblo fyny'r Rhobell Fawr ag yfed rownd y tan yn y nos nes disgyn i gysgu mewn llwyth o ddalan poethion.

Woo ha! Gobeithio nawn ni neud digon o swn i ddychryn y bytheids o dwristiaidartistiad dyfrliw sy'n aros yng Nghors Y Garnedd gerllaw.

Ma'r ha'n siapio fyny'n reit dda...

(gyda llaw, heb flogio ers wythnos gan fy mod wedi cymryd gwylia yn y Gog a roedd dianc o gyfrifiaduron yn rhan o'r gwylia...mi weithiodd, ond dydi o ddim yn edrych fel bod neb arall wedi bod yn blogio chwaith!)

Comments

Popular posts from this blog