Ffônlônluniau

Moblog Nwdls

Dwi wedi cael upgrade diweddar i'r ffôn felly benderfynais i gael un efo camera, ac ar ol gweld blog ffôn ar joiito ac ar un BartiDdu, wedi penderfynu gwneud un o'r rheiny fy hun hefyd. Fatha rhyw gofnod o feddylia a digwyddiadau yn weledol. Rhyw ecsperiment bach ynte.

Felly o nawr ymlaen bydd lluniau bach yn hedfan drwy'r bydysawd a glanio ar dudalen fy lônflog yn fyw bod yn hyn a hyn. Ffwc a wyr faint fydd hyn yn gostio i fi ond dyna ni, gai weld ar y bil cynta de!

Biti nad oes gen i safon gwell o luniau ar fy ffôn ond dyne ni, allwch chi ddim cael popeth na.

Comments

Popular posts from this blog