Ffilm: Sinema

Wu jian dao (2002) / Infernal Affairs
Cyf: Wai Keung Lau ac Siu Fai Mak

Heb weld ffilm action Hong Kong ers coleg, a naeth hon gadw'r fflam yna o frwdfrydedd amdanynt ynghyn tan y nesaf. Thriller cops a triads ydi o, efo dau foi yn deep undercover: un yn y triads a'r llall yn yr heddlu wedi'w blannu gan y triads. Felly mae'r ddau'n ceisio ffeindio allan pwy yw pwy a'r pennaethiaid y cops a'r triads yn ceisio sdopio'r ddau dwrch rhag sbwylio operations eu gilydd. Felly, digon o le am ddrama a thensiwn, ie wir. Mae na sawl darn od yno lle mae'n mynd yn felodramatic i gyd ond mae hyn jest yn ychwanegu cymeriad i'r ffilm. Me Brad Pitt am ariannu a serennu mewn remake Hollywood yn ol bob son.

Gwylio rywfaint o Boiling Point Wesly Snipes nos Lun ond oedd o'n ddiflas braidd.

Comments

Popular posts from this blog