Ffilm: Sinema

Dogville (2003)
Cyf: Lars von Trier

Weithiau, jest weithiau, ma ffilm yn taro chi ar eich tin ac yn eich gadael yn fud wedi i chi adael y sgrin arian. Dyna ddigwyddodd i fi efo City of God a dyna ddigwyddodd i fi efo Dogville nos Lun. Doedd y dair awr ddim yn broblem a teimlodd fel hanner hynny.

Mae hyn i gyd yn dod o safon yr actio, oedd yn gorfod bod yn sbot on gan nad oes bron dim set i'w gael yno ond llinellau gwyn yn dangos ffiniau'r tai a'r coed gwsberis. Roedd y sdori'n un hynod afaelgar gyda thensiwn anioddefol weithiau, y diawl sadistaidd von Trier yn crechwenu fel pypedwr cas gyda'i marionettes hyblyg.

Dyw hi ddim n berffaith ond dwi'n credu fod hyn yn adlewyrchiad o von Trier ei hun. Mae fatha ei fod yn cwffio rhwng dau ideoleg yn y ffilm ac yn actio'r ddadl allan fel drama, mae'r ddadl ei hun yn dod yn rhy amwg yn y ffilm erbyn y diwedd ond nid yn rhy amlwg o ran beth cy'n cael ei ddweud, beth yw'r neges. Mae hon yn dal i droi yn fy mhen a mheri i bendroni 4 diwrnod yn ddiweddarach. Dyna dwi'n lecio m y ffilm yma.

Comments

Popular posts from this blog