Ffilm: Sinema

21 Grams (2003)
Cyf: Alejandro González Iñárritu

Ar ol y ffys i gyd am hon, roeddwn yn teimlo bach yn siomedig. Roedd yr actio yn sbot on (yn arbennig del Toro - mae o wir yn un o'r actorio mwya carismatig yn sinema ar foment. Mae o jest yn neidio allan atoch chi), ond roedd y golygu neidio ar draws amser a golygfeydd yn teimlo'n ddibwynt braidd. Mae ffilmiau fel Memento a Pulp Fiction yn ei ddefnyddio ar gyfer ychwanegu i'r stori neu ddatblygiad y cymeriadau ond dyw hon ddim fel ei bod yn llwyddo i wneud hynny. Mae hi'n bydew du emosiynol o ffilm sy'n eich gadael yn drwmgalon a thrwmlygeidiog braidd.

Dwi'n meddwl mod i wedi gallu barnu hon yn deg ar ol gweld ffilm drom arall y noson gynt. O'n i jest isio dianc o'r byd llwm o mlaen i a mynd i weld Torque llygaid-felys.

Comments

Popular posts from this blog