Ffilm: DVD

Gwefan Gartref Dal Yma Nawr
Cyf: Marc Evans (yn ogystal a: Gruff Davies, Rhodri Glyn Davies, Dave Evans, Chris Forster, Ieuan Morris, Ed Talfan, Ed Thomas, Bedwyr Williams)

Gwych gwych gwych, ysblennydd, go drapiapam da ni'm yn gallu gwneud ffilmiau Cymraeg efo'r hyder yma. Roedd bron popeth yn iawn (heblaw am Ioan Gruffydd a Mathew Rhys ar draeth Venice...son am raffu ffrindia i wneud rywbeth jest am bo nhw'n ffrinidau. tsk), roeddwn i bron yn y nagrau ar adegau, chwerthin hefyd, roedd y delweddau a'r cyfarwyddo'n gelfydd a mor ddiddorol. Buasai rhai darnau wedi bod yn ddigon heb yr actor yn adrodd o flaen y camera, oherwydd cryfder y lluniau.

Da iawn bobol am wneud ffilm sy'n tywynnu hyder iaith a'i hanes, er fallai nad yw hi'n sefyllfa mor hyderus go iawn, mae'n braf cael ffilm bositif. Pelydryn o heulwen barddonol drwy gymyla du brwydr yr iaith. Ma rhaid i fi gael copi o hon i'w chadw, dim ond benthyg o gwaith wnes i, mae hi'n DVD angenrheidiol i bob ty Cymreig, boed Gymraeg neu Saesneg eu iaith.

Comments

Popular posts from this blog