DVD's Nos Sul...

Zoolander (2001)
Cyf: Ben Stiller
Badlands (1973)
Cyf: Terrence Malick
Best In Show (2000)
Cyf: Chirstopher Guest

Zoolander - fflyff, dau joc wnaeth wneud i fi chwerthin yn uchel, o'n i'n gallu gneud sawl peth arall tra'n gwylio'r ffilm...

Badlands - O am ffilm. O am actorion. O am fiwsig. O am ffotograffiaeth. Barddoniaeth chwerwfelys ar seliwloid. Mae'n debyg ei fod yn fy top ten (ella top ffeif). Mae troslais Sissy Spacek yn swynol a melfedaidd fel haul y bore ar dy wyneb. Mmmm.

Best In Shoe - Chwerthin llond y mol. Gan greawdwr Spinal Tap - ffug-ddogfen arall sy'n spot on, ond y tro ma am sioe gwn ac y perchnogion a hyfforddwyr obsesif a dychrynllyd! Gwychgachboethbeth!

Comments

Popular posts from this blog