Brenhines y Chafs a'u iaith

BBC Arlein | Newyddion | Angladd 'brenhines' Romani

Dwi'n meddwl fod y ddynes yma'n nain, neu'n hen fodryb i sawl person yn Nolgellau. Bu yna ryw bum teulu Romani yn nolgellau ar un adeg ond dim ond dau sydd ar ol rwan a'r Parkes ydi un ohonynt. O'r Roamni mae'r enw 'Chaf' neu 'chav' sydd dal mewn defnydd cyson yn nhafarndai Dolgellau. "Iawn chav?' ydi cyfarchiad llawer o bobol dre. Yn ol be glywais dros y penwythnos 'krushti chav' (sillafu yn anghywir dwi'n meddwl) oedd y cyfarchaid yn arfer bod. Swnio fel 'cushty' sy'n cael ei ddefnyddio gan bobol Essex a Llundain. Sgwn i os mae cysylltiad?

Mae'r London Slang Dictionary yn deud fod 'cushty' yn dod o'r 'khush' sef Hindwstani am 'neis'

on mae'r Britionary yn deud ei fod yn dod o'r dywediad Romani 'Kushty Bok' sef 'lwc dda'

Erthygl Times am sut mae chav rwan yn golygu pobol ifanc o'r underclass Prydeinig sy'n debyg o gwisgo capia Burberry ag ati.


www.chavscum.co.uk


Dydi chafis Dolgellau ddim yn sgym o bell ffordd, bobol neisia gei di. Mae'r newid yma yn nefnydd y gair yn bechod braidd. Gobeithio na ddiflannith o o eirfa Dolgellau o;r herwydd.

Comments

Popular posts from this blog