Video Dychrynllyd

Creepy Clips - The largest collection of horror clips

Wedi ffeindio'r wefan yma tra'n chwilio am rithffurf i roi ar y fforwm trafod ffilm Empire dwi newydd ymuno a fo. Wedi gwario hannar y pnawn yn rhoi ias oer lawr y nghefn i. Mae'r un Poltergeist lle ma'r hogan yn disgyn mewn i'r pwll nofio mwdlyd efo llwytho sgerbydau ynddo yn wych.

Wedi gneud fi isio mynd i weld "House Of A 1000 Corpses" wsnos yma. Fydd raid gweld tair ffilm rwan: Young Adam, Bright Young Things a ffilm Rob Zombie. Sa jest ddim digon o amser.

Comments

Popular posts from this blog