Nol eto ar ol gwylia bach
Wel, gwylia o'r blog. Heb fod yn rhyw dramgwyddo llwybrau digidol y we ers tro felly fawr o ddim i riportio.

Wedi bod yn sgwennu sgript neithiwr ar gyfar ffilm fer. "Celwyddwallt" ydi ei enw, ysbrydoliaeth ysbrydol a ddaeth gan y diweddar Barchedig John Sbecs canys ef a fathodd y term, mewn bath mawr oren. Ac allan a ddaeth y stori o mhen. Ma'n raid deud fod Suw wedi fy ybrydoli i jest ista a sgwennu'r sdwff gwirion sy'n mynd mlaen yn fy nghraniwm.

Stori o rybudd ydi, stori am newid bywyd am y gora drwy wyrth y celwyddwallt. Di'm cweit di gorffan eto a dwi heb sgwennu y deialog (prin) sydd ynddi, ond rwbath gweledol ydi hwn fwy na dim, yn ol traed Jeunet a'i ddyfeisiadau difyr. Beth bynnag fyddai'n bwrw iddi eto heno ar ol gwylio ambell ffilm dwi di gael ar fenthyciad..."Happy Now?" a ffilmwyd yn Bermo, sydd fod yn Lynchaidd ond chydig yn fflat, a'r "Milwr Bychan" o 1986. Rioed wedi ei gweld a meddwl y dylswn i ddal fyny ar fy hunaniaeth ffilm Cymreig. Gobeithio fydd gen i amsar i roi adolygiad bach i chi wedi hyn...

Yn olaf, newydd fod yn meddwl am ddywediad digon od ddaeth mewn i mhen i. Heb ynganu'r frwaddeg ers tua 6 mlynedd o leia ond dyma fo, ydi o'n iawn d'wch?

"Ara bach a bob yn dipyn, ma sdicio bys mewn tin gwybedyn."

Pam bod isio sdicio bys yno yn y lle cynta dwi ddim yn gwybod ond, ma rywun wedi mynd i;r ymdrech i ddysgu'r sgil. Ella fod na aur yna, neu elixir bywyd, neu lun o Amanda Protheroe...wel ar ail-fedddwl, canslwch y tri. Na'i gadw mys allan diolch.

Comments

Popular posts from this blog