FFilm: Spellbound

Be dio efo documentaries sinema gwych flwyddyn yma?

Yn gynta Dogtown and Z Boys, wedyn Etre et Avoir, wedyn Bowling for Columbine a rwan Spellbound.

Ffilm yw hon sy'n dilyn saith o blant hynod alluog ar sillafu ac sy'n gyffredinol hollol beniog, o'r Spelling Bees lleol i'r gystadleuaeth genedlaethol. Swnio'n boring? Ma'n ffantastic. Ma'r ffilm yn llwyddo i fod mor ddoniol nes eich bod chi'n methu sdopio chwerthin (wel, Harry Altman beth bynnag...gewch chi weld), cyffrous, efo dyfnder llawer mwy na jest dogfen o be sy'n digwydd.

Mae'n treiddio mewn i brofiad mewnfudwyr America, bywyd syml y midwest (a nyts "We're thinking of sending the other kid to the marines, he likes to play with guns and bombs and that..!"), y ffordd mae America mor gystadleuol, ella i'r gradda lle ame'n ddrwg i rai o'r plant (er, dio ddim byd tebyg i gystadleuaeth rhieni beauty pageants).

Ma'n taenu'r "America is the land of the free and you can do what you want if you try hard enough" chydig yn rhy drwchus i fi ar adegau a galla fo wedi gneud efo tocio chydig ar yr hannar cynta ond mae'r cyfanrwydd yn cuddio'r gwendidau pitw hyn. Allwch chi ddim helpu dewis eich hoff blentyn o'r criw a mynd "tyd laen, sillafa fo" yn eich pen tra ma'n nhw'n poenydio eu hunain ar y llwyfan ac o flaen ESPN.

Cerwch i gweld hi, yn arbennig os oedach chi di joio Etre et Avoir (a joio "Jojo" o Etre et Avoir!).

Comments

Popular posts from this blog