Ffilm: House of a 100 Corpses

House of 1000 Corpses (2003)

O'n i'n gobeithio gweld ffilm refereatial i slasher's y 70'au ond 10 gwaith yn fwy, ar y gwaetha o'n i'n disgwyl gweld rhywfaint o tongue in cheek. Be gesh i y dyrdan fwya drewllyd rioed i gael ei roi ar seliwloid.

Dim tensiwn, dim dychryn, di-ddychymyg, actio gwaeth na unrhyw ffilm horror. O'n i'n bord hollol. Nath paawb yn y sinema chwerthin ar y diwedd (oedd na lot o bobol yno, dwi'n ama taw'r teitl gret sydd wedi denu pobl i'w weld). Ddyl Rob Zombie byth gael y cyfle i wneud ffilm eto, ddylsa fo orfod gwqylio ei ffilm ei hun drosodd a throsodd am weddill ei fywyd, neu nes bod o'n dysgu un peth am confensiynau horro.

Doedd na DDIM cydymdeimlad ag unrhyw un o'r cymeriadau, sy'n dinistrio unrhyw fath o densiwn.
Doedd na ddim dyfesigarwch yn y ffordd oedd pobol yn cael eu lladd nac yn unrhyw un o'r creaduriaid a chymeriadau sy'n tynnu unrhyw bleser secondary allan ohono.
Doedd na ddim point. Insylt i'r cyfarwyddwyr oedd o'n trio'u anrhydeddu. Cachu mot ar dost. Dwi'n pissed off bo fi di gweld o.

Comments

Popular posts from this blog