Ffilm: Happy Now?

IMDb - Happy Now

Actio'n fflat, dim cemistri rhwng Ioan Gruffydd a'r love interest, gor-dddefnydd o pastiche Western - deud gwir gafodd o ddim ei ddefnyddio digon, tasa na lot fawr sa fo'n ddoniol a tasa fo'n dipyn bach sa fo'n subtle ond roedd o rwla yn y canol = anghyfforddus.

Rhaid deud fod y lleoliadau yn hynod brydferth efo fframio neis a defnydd o Bermo (dwi'n biased ylwch! pwy sa'n meddwl faswn i tuag at Bermo!). Roedd y stori'n ddigon difyr, efo lot o gymeriadau difyr a chofiadwy iawn(Blodwen, rheolwraig y pyb yn ei Iron Lung gwyrdd pastel!a Om Puri fel y tramp lleol), er fod y copar cefn gwlad yn stereotype goramlwg.

Y broblem fwya oedd yr actio. Doedd calon neb ynddi oedd yn gneud rhywun i ddiflasu braidd. Roedd yr ymdrech i neud murder mystery bach kooky Cymreig yn un cymeradwy a roedd llawer o'r elfennau yno, ond ar ddiwedd y dydd, mae'n nos, na sori, ar ddiwedd y dydd, sa da chi'n bacso dam am y cymeriadau di'r gweddill ddim yn golygu lot, hyd yn oed os ydi o'n edrach yn neis.

Comments

Popular posts from this blog