Ffilm: City Of God

IMDb: Cidade de Deus (2002)

Ail wylio hon ar DVD. Doedd hi ddim cweit yn cael yr un effaith ar y sgrin fach. Dal yn dda, Benny dal yn un o'r cymeriad gora i ddod ar sgrin sinema mewn amsar maith. Mi wnesh i dddisgybn i gysgu am tua hannar awr ddo. Ella bo fi ddim yn bod yn deg...a wel. Nesh i gysgu yn ystod Les Triplettes De Belleville fyd, ag Intacto flwyddyn yn ol. Ma cysgu yn y sinema yn hyfryd....mmm. Amsar cysgu rwan deud gwir, gwaith fory. Ffag bach gynta a falla panad ola, wedyn ciando.

Pam dwi'n yfad gymaint o de ar y foment? O'n i byth yn arfar, nes i fi symud mewn efo yfwr chronic. Dwi rwan ddim yn cael fy nghoffi espresso arferol yn y bora a panad ar ei ol o. Ydw i'n od? Ydi nghorff i'n gaeth i'r ddau. Ai te yw'r vice nesa ar fy restr estynedig?

Comments

Popular posts from this blog