Cerddoriaeth: Dvorak a'i Symffoni i'r Byd Newydd
Classical Classics - Dvorak's "New World" Symphony, Classical Notes, Peter Gutmann

Nesh i ddeffro bora ma efo chwilan yn y mhen i glywad y Symffoni yma gan Dvorak. Felly Kazaa'io hi a dwi'n gwrando arno fo rwan, mae'n un o'n hoff ddarnau clasurol (er, dwi'n cyfadda dwi'm yn nabod llawar). Dwi'n meddwl taw'r holl son am Asterix ar maes-e sydd wedi atgoffa fi. Pam hynny ddwedwch chi? Wel, hwn oedd y tap oedd yn car Dad pan oeddan ni ar wylia yn Ffraincryw adag, ag ar y pryd oedd na un rhgan o'r symffoni yn atgoffa fi o anturiaethau Asterix ag Obelix! Rhyfadd be mae cerddoriaeth yn evoke-io (ych , be di evoke yn Gymraeg?). Off rwan am fwyd yn Y Wharf, dwn im sut betha sydd yno ond ma'n bownd o fod yn rhyw ciabatta bolycs gor-brisiedig.

Comments

Popular posts from this blog