Ffilms

Waw, dwi heb son am pa ffilms dwi di gweld ers oes. Felly...

Hulk
Gwych, gwych, gwych. Ma Eric Bana wedi hitio'r jacpot fan hyn mewn clasur Arall gan Ang Lee. Sydd, fel ma Sight and Sound yn deud, yn troi allan i fod yn un o gyfarwyddwyr mwyaf diddorol Hollywood. Ma'r golygu fel comic ynddo heb ei ail. Gwreiddiol, diddorol, gafaelgar, llawn action a digon o themau oedipal a gwrth-ryfel i gadw chi'n tician drosodd.

Animal Factory
Ffilm bach dda iawn gan Steve Buscemi o lyfr Edward Bunker. Dilyn hanas Edward Furlong yn cyrraedd carchar ma y tro cynta ac yn cael ei fabwysiadu gan un o fois cleta'r lle. Mae'n tense iawn - ydi'r boi ma sy'n edrach ar ei ol 'for real' neu oes ganddo ulterior motive?

Gwylio The Pianist eto neithiwr - o mai god mae o'n ffilm wych. Gwella eto ar yr ail edrychiad. Polanski nol ar form. Be gawn ni nesa?

Mynd i weld La Communidad heno, i fod yn ffilm sy'n rhan o'r New Wave Sbaeneg o ffilmiau fantasy. Edrych mlaen LOT. Wedyn sesh efo hanner y West Wales Free Mobile Disco Party Crew (wwfmdpc) yn y Big Weekend. Swir fydd hi'n benwythnos gwyllt iawn eto. Ydi hyn fyth am stopio?

Comments

Popular posts from this blog