Ffilm: La Communidad

La Communidad yn wych! Un o'r comediau gorau i ddod allan o Sbaen ers sdwff cynharach Alodovar. Chaotic, farcical, neurotic. Mae'r steil lot fel Delicatessen (mae'r rhan fwyaf o'r action ar risiau bloc o fflatiau) a chymaint o gyfeirio at ffilms Hitchcock mewn ffordd neis nid cawslyd. Mae'r credits agoriadol yn werth y pris mynediad ar ei ben ei hun, teyrnged i Saul Bass a wnaeth gymaint o sdwff i Hitchcock yn y 60'au. Mae na un darn sydd yn roguefort-llyd ac sydd yn sdicio allan fel bawd sor ond nes i ei esgusodi'n syth fel camgymeriad bach yn 'judgment' y cyfarwyddwr a chario mlaen i fwynhau.

Ewch i'w gweld, prynwch hi a llawenhewch! Gwylio Profondo Rosso gan Dario Argento nos Fercher a wedyn ffilm Troma o'r enw Terra Firmer. Edrych mlaen yn ofnadwy ar gyfer yr Argento. W, mae'r wefan yma am Argento yn wych a chynhwysfawr joiwch.

Comments

Popular posts from this blog