Ffilm: The Big Sleep

Gwylio hon yn hwyr neithiwr, a'i mwynhau hi o ran y deialog siarp a pherfformiadau gwych gan Bacall a Bogart, ond oes na rywun arall di cael trafferth gwybod be ffwc sy'n mynd ymlaen. O'n i ar goll ar ol tua hanner ffordd drwodd. Ai fi sy'n thic neu ben-gwmwl dan yr annwyd ma?Oedd na gymaint o strands stori'n mynd ymlaen a chyn lleied o amser i'w amsugno fod popeth wedi mynd yn drech na fi. Dwi'm yn deud na wnes i ei mwynhau ond ella fod y trosiad o'r llyfr heb weithio mor dda ag y medrai. Dwi am ei gwylio eto, a dwi'n siwr ddaw hi yr ail ddro. Ella fod hi'n Se7en-aidd yn hynny o beth...(dwi'n falch mai nid fi yw'r unig un.)Fodd bynnag, mae Lauren Bacall yn fy nychryn braidd, mae hi'n hynod brydferth ond mae ei llygaid hi yn bell iawn o'u gilydd a'i cheg yn giami. Bach yn weird. Ond mae ei llais hi, aaaaah, rhyw ar ffurf tonnau sain. Peth od am y Big Sleep hefyd oedd fod pob un hogan ynddo yn gorjys, hyd yn oed y gyrrwr tacsi (shwrli o fan hyn ma Tarantino di dwyn ei yrrwr tacsi yn Pulp Fiction?)! A ma pob un yn disgyn yn syth am Bogart er ei fod yn gorachog braidd - ma na siawns i fi eto bois bach!

Dwi yn meddwl fod Shirley Maclaine (who ma hi'n dal i fynd!) yn llawer deliach ddo ar ol gweld the Apartment echdoe. Stynar sydd fyny na efo Audrey Hepburn (ond ddim cweit, ma hi'n cymryd y fisged hobnob efo sicoled ar y top).

Comments

Popular posts from this blog