Ahaaaaar! Mor Ladron agogo

Nath darllan erthygl yn Empire fy ysbrydoli heddiw i wneud search am ragor o wybodaeth ar hoagn o'r enw Anne Bonny oedd yn for-leidr(es?) enwog. Mae ei hanes yn hynod ddiddorol ac yn symud o gael ei alltudio o Iwerddon, llosgi planfa ei thad a rhedag criw efo Calico Jack Rackham a Mary Read. Y peth diddorol am Rackham ydi ei fod efo'r un enw a'r mor leidr Rackham Goch yn y llyfrau Tintin heb yn wybod i Herge pan oedd o'n sgwennu'r storis.

Ma'r holl hanes mor ladron yn anghygoel o ramantus ac anturus ac yn corddi delweddau di ri. Dwi am fynd i weld Pirates of the Carribean fory, deffo. Mae angan bach o byclo swash arnai ar ol darllen amdan y bobol ma, a'r peth gorau ydi fod y reprobates cofiadwy yma yn dod o dras Cymreig yn amal iawn. Fyddai lawr yn y Bae dydd Llun wedi haijacio y cwch sy'n rhoi tour fyny'r taf, commaderio fo allan drwy y barrage a fyny i ogof yn Sir Befro lle byddai'n cuddio a a byw ar neidio ar yachts Saeson Sir benfro a dwyn eu gwragedd a'u merched nhw! Ha haarrrrr! Wedyn fyny at Abersoch am ragor o spoils. He heeee! Ffacin gret.

Pam nath S4C ddim llwyddo i gorddi'r math yma o frwdfryddeddd ynddo fi yn eu ffilm dolig "Trysor Y Mor Ladron"? Ma'r pwnc yn rili annodd i droi mewn i stori gachu am fod y cymeriadau sydd ynddynt mor gryf. Coc yp llwyr oedd yr addasiad ffilm na.

Beth bynnag ma na luniau o fflags y mor ladorn fan hyn a bob math o hanas yn stemio o'r dudalen ffrynt. Faswn i'n gallu darllen y wefan yma drwy'r nos ond ma raid mynd i gwely a gorffan y tridia o orffwyllder a gormodedd gyda chwsg call.

Comments

Popular posts from this blog