Pensaerniaeth Caerdydd

Bu uffar di'r big deal efo gwario ar adeilad y cynulliad yng Nghaerdydd?
Ma'n hen bryd i ni gael chydig bach o adeiladau hanner diddorol yma yn ein prifddinas neu fyddwn ni byth yn BRIF-ddinas go iawn. Mae angen dewrder efo cynllunio y ddinas, bach o ffycin balls. Ma'r blociau fflatiau monolithaidd sydd newydd gael eu hadeiladu yng nghanol dre yn mynd i edrych yr un mor ddiflas a'r tyrrau eraill sydd na o fewn 5 mlynedd. Be ddigwyddodd i gelf pensaerniaeth?

Mae'r bae yn rywbeth arall, os na fydd y fflatiau or-brisiedig yna lawr yn y bae yn troi mewn i ghetto o fewn 15 mlynedd ar ol i bobolsylwi faint mor shit ydi o i fyw yno, nai wisgo sgert a make-up a mynd mewn i pyb y Tredegar yn Sblot a dechrau gwaeddi "Swansea jacks!" (ddim yn syniad da...)

Dwi'n bersonol yn edrych mlaen i weld yr adeilad newydd mae'n edrych yn reit ddiddorol a bydd yn llawer gwell adlewyrchiad o bwysigrwydd y sefydliad fydd yn trigo ynddo.

Comments

Popular posts from this blog