Gwyl Ffilm Cannes

Wel, dwi nol, dwn im os ma unrhyw un dal yn gwrando ond na ni dwi nol!

Wedi bod digon lwcus i fynd ffwrdd efo gwaith i'r wyl uchod yn cefnogi gwneuthurwyr ffilm Cymreig. Medwl baswn i'n rhoi crynodeb o'r ffilmiau welis i draw yno...

Dyma restr linciadwy o'r ffilmiau yn- ac allan o gystadleuaeth yno

Gorau: Noi Albinoi (Gwlad Yr Ia), Dagur Kari - Stori hogyn Albino o'r enw Noi sydd yn byw mewn pentra bach ar ochr fjord. Ma'r hogyn yn beniog ond yn tipyn o loner. Ffilm trist ond sy'n llwyddo i godi'r galon. Gwych!

Daft Punk and Liji Matsumoto present Interstella 5555 (Frainc/Siapan) - Fffilm animeiddiedig o'r albym dwetha - os da chi'n ffan o Daft Punk ma hon yn werth y byd yn grwn, os da chi'n ffan o anime steil Battle of the Planets hefyd, newch chi bisio yn eich trons.

Werth ei weld:

Carandiru (Brasil), Hector Babenco - Dilyn bywydau trigolion un o garchardai gwaethaf Rio. Bach yn rhy hir ond cymeriadau ffantastig.

Distant Light (Yr Almaen), - Dilyn diwrnod ym mywyd pum person anffodus ar ffin Alamen/Gwlad Pwyl. Myfyrwyr sy'n troi i buteiniaeth, pobol yn colli eu busnesau, smyglwyr ffags 14 oed, refugees o'r Iwcrain sy'n despret i groesi am fywyd newydd. Hollol ddigalon ond ffilm wych sy'n dangos sefyllfa druenus y rhan yna o Ewrop yn glir. Slap yn y gwyneb go iawn, yn arbennig pan da chi'n cerddad allan o'r sinema i decadence Cannes...

Ffilm waethaf:
The Brown Bunny (UDA), Vincent Gallo - Rybish self indulgent, awr o hannar o ddreifio mewn car i LA heb ddim byd yn digwydd wedyn golygfa blowjob graffig rhwng Gallo a Chloe Sevigny...ddim hyd yn oed werth o am hynny.

Comments

Popular posts from this blog