GO YOJIMBO! MAe'r samurai sword yn well na'r gwn, wrth gwrs, a-hem, dwi ddim yn cefnogi trais...ond mae hon yn ffilm a hanner. Mae'r cymeriadau'n gryf ac yn gofiadwy, mae gan bob un rywbeth diddorol amdano. Dwi'm yn synnu fod Leone wedi ripio hon off. Mae'n ddoniol ac yn llawn egni, dyw hi ddim yn ddwys iawn ond na fo 'action-adventure' yw hi a joiwch pob munud o'r ddwy awr.

Mae Mifune yn ffycin soled ynddo ac yn dominyddu'r sgrin. Mae shots Akira Kurosawa yn lan ac yn arbennig o dda yn gosod y ddau gang yn erbyn eu gilydd. Y ddau ddim yn siwr pwy sydd am gychwyn ac yn mynd yn agosach ac ynagosach at eu gilydd, gyda Sanjuro yn eistedd ar dwr rhwng y ddau gang yn chwerthin am faint mor hawdd mae o di cael y ddau grwp ma o reprobates i ddinistrio'u gilydd. Ond wrth gwrs dyw hi ddim mor hawdd a hynny iddo...mi fydd na fwy o wylio Kurosawa drwy'r haf.

Comments

Popular posts from this blog