Hanes Cymru
Y Drych Digidol - Trysorau - Hunangofiant Smyglwr
Tra'n ychwnaegu sdwff i'r Rhegiadur nesh i chwilio am y gair 'trythyllwch' (sexual indulgence) ar y we a ddes i ar draws yr em yma, sef hanes y dihiryn a sgamp (a llofrudd...), William Owen oedd ei hun yn 'ymdrabaeddu mewn trythyllwch'!
Mae ei hanes yn ddifyr iawn ac wedi ei gofnodi yn y Llyfrgell Gendlaethol yn ei hunangofiant. Am fywyd: ar y mor, yn ymladd Sbaenwyr a Lladron eraill a merch ym mhob porthladd. Yarrr!
Sdwff da iawn ar y wefan drych digidol ma: mapiau cynnar Lewis Morris a William Morris o Aber y Fawddach a bas data chwiliadwy o luniau Geoff Charles o'r 20fed ganrif .
Dyma rai lluniau o Ddolgellau:
Agoriad Neuadd Sir Feirionnydd, Dolgellau, Ion 30, 1953.
Hen gegin ffarm Dewisbren, Rhydymain 1952.
Arwerthiant Da Duon, Mart Dolgellau, Mawrth 26, 1954. (Fan hyn mae nhad yn arwerthu!)
Hefyd wedi darganfod hwn ar archif bandiau link2wales.co.uk :
Comments
Roedd y boi ma'n credu fod cynllun sylfaenol y ffôn fel teclyn wedi mynd yn waeth dros y blynyddoedd er fod y dechnoleg wedi datblygu.
Felly aeth e ati i newid hynny a chael gafael ar hen ffonau (neu'r darn clywed ta beth), tynnu allan yr hen dechnoleg a rhoi cyfarpar modern i mewn sy'n gallu cysylltu i ffôn symudol.
Wedi ffeindio'r wefan - Pokia - mae bob un wedi ei wneud yn unigol felly mae nhw'n eitha drud.